Pam mae Cynllunio Ymgyrchoedd Cyfryngau Cymdeithasol yn Hanfodol i Fusnesau Bach yng Nghymru
- Angharad Harding
- Aug 14, 2024
- 2 min read

Mae llawer o fusnesau bach yng Nghymru yn methu â chynllunio ymgyrchoedd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol neu ei busnes yn gyffredinol. Mae'n hawdd deall pam - gall y syniad o ‘ymgyrchu’ swnio’n gymhleth ac yn pryderus. Y gwirionedd yw, mae'n golygu cael cynllun gweithredu clir i hyrwyddo cynnyrch, gwasanaeth neu ddigwyddiad.
Fel rhywun sy’n gweithio yn y maes busnes bob dydd, rwyf wedi gweld llawer o fusnesau, gan gynnwys sefydliadau mwy, yn defnyddio agwedd ‘postio a gobeithio’r gorau, ‘hope for the best’. Ar ôl treulio amser yn chwilio am syniadau ar gyfer fy musnes I, fe ddaeth I’r amlwg pa gynlluniau sy’n gweithio a pha busnesau sydd wedi datblygu un!
Cwestiynau Allweddol i Dechrau
Beth ydych chi eisiau ei hyrwyddo?
Ai un cynnyrch penodol? Ai eich holl gynhyrchion? Neu ddigwyddiadau penodol? Ifi, gwasanaethau.
Beth yw nodau’r ymgyrch?
A yw'n cynyddu gwerthiant o 10%? A yw'n llenwi’ch lleoliad gyda x swm o bobl? Neu a ydych fel fi yn chwilio am ymholiadau newydd.
Pryd fydd yr ymgyrch yn dechrau, ac yn gorffen?
Nodwch y dyddiadau hyn yn eich calendr cynnwys. Dechreuwch yn gynnar a chynyddwch y marchnata wrth i’r ymgyrch fynd yn ei flaen.
Pa lwyfannau ydych chi’n eu defnyddio?
Adnabod eich cynulleidfa a defnyddio’r llwyfannau mwyaf perthnasol, boed hynny’n Facebook, LinkedIn, Instagram neu eraill. Mae gen I y tri platfform yma, ond yn teimlo bod LinkedIn yn fwy effeithiol.
Cadw Pethau'n Syml
Gyda'r pedwar cwestiwn hyn, gallwch ddechrau cynllunio’ch ymgyrch yn gyflym. Rwy'n argymell ysgrifennu pethau i lawr. Unwaith mae gennych chi beth rydych chi am ei hyrwyddo, eich nodau, a dyddiadau dechrau, gallwch chi ddechrau taflu syniadau am gynnwys.
Ymgyrchoedd Drwy'r Flwyddyn
Mae cynllunio cynnwys a’ch ymgyrchoedd ymlaen llaw yn hanfodol. Rwy’n cymeryd wythnos cyn y Nadolig I feddwl am y flwyddyn sydd I ddod ac wedyn yr wythnos gyntaf yn Ionawr I feddwl am y chew mis cyntaf. Mewn unrhyw fusnes, mae rhaid bod yn hyblyg, ac efallai weithiau newid. Er enghraifft, gwyddom fod Ionawr, Awst a Rhagfyr yn misoedd tawelach ini yn Aim High Busnes, felly rydyn yn rhoi ymgyrchoedd allan dau fis cyn y misoedd yna. Trwy anelu at y dyddiadau hyn, rydych yn creu ac yn gweithio tuag at ymgyrchoedd marchnata effeithiol.
Angen Cymorth?
Os hoffech chi gael sgwrs am eich strategaeth busnes, cysylltwch â ni! Byddem wrth ein bodd yn eich helpu i deimlo’n fwy hyderus am eich busnes. Mae cynllunio’n allweddol, ac rydym yma i’ch cefnogi i wneud hynny.
留言